Potest Unison
Mae adroddiad ar aelodaeth undebau ym Mhrydain yn awgrymu mai Cymru yw cadarnle’r undebau llafur.

Mae’r adran fusnes, menter a sgiliau yn Llundain wedi cyhoeddi adroddiad ar aelodaeth undebau llafur yn y Deyrnas Unedig, a Chymru yw’r wlad sydd â’r gyfran uchaf o aelodau a’r unig wlad lle bu cynnydd mewn aelodaeth yn 2011.

Roedd 400,000 o undebwyr yng Nghymru yn 2011, sef 34.9% o’r gweithlu. Mae hyn yn uwch na’r canrannau yn Lloegr –  24.8%, yn yr Alban – 29.8%, ac yng Ngogledd Iwerddon – 33.6%.

Dim ond 20.6% o weithwyr Llundain sy’n aelodau o undebau llafur a 26.6% o weithwyr y West Midlands.

Dros y deng mlynedd diwethaf disgynnodd y niferoedd o undebwyr yn Lloegr o 535,000, ond dim ond cwymp o 8,000 a fu yng Nghymru. Daeth mwyafrif y cwymp ar draws gwledydd Prydain ers 2007.

Mae 55.8% o weithwyr Cymru yn gweithio mewn gweithle ble mae undeb yn bresennol, a dyna yw’r ganran uchaf yn y Deyrnas Unedig. 41.8% o weithwyr Gogledd Iwerddon oedd ag undeb yn y gweithle, a roedd y ganran ar gyfer Llundain yn is eto – 33%.

Mae aelodaeth undeb ar ei gryfaf yn y sector cyhoeddus, yn arbennig ym meysydd addysg a gweinyddiaeth gyhoeddus.