Gwr gor-dew
Mae sefydliadau sydd yn cynrychioli bron i bob un meddyg yn y DU wedi uno mewn ymgyrch i weithredu yn erbyn y cynnydd mewn gor-dewrder.

Bydd trefnwyr yr ymgyrch yn canolbwyntio ar adolygu trethi, hybu ymarfer corff a chyfyngu ar hysbysebu bwyd ymhlith pethau eraill.

Eisoes mae nhw wedi beirniadu y penderfyniad i ganiatau i gwmniau fel Macdonalds a Coca-Cola noddi’r gemau Olympaidd yn Llundain eleni.

Dywedodd llefarydd ar ran yr ymgyrch, yr Athro Terence Stephenson, bod hyn “yn anfon y neges anghywir.”

“Mae’n amlwg na fuasai’r cwmniau yma yn gwario’r arian onibai eu bod yn elwa o gael eu cysylltu efo athletwyr,”meddai.

Mae bron i chwarter yr oedolion yn y DU yn or-dew ac mae rhai arbennigwyr yn proffwydo y bydd hanner plant y DU yn or-dew neu yn dew erbyn 2020.

“Mae’r broblem yma yn anferthol i’r DU,” meddai’r Athro Stevenson. “Mae’n llawer mwy na HIV a llawer mwy na ffliw moch.”

Tra’n croesawu’r ymgyrch, dywedodd llefarydd ar ran Adran Iechyd Senedd San Steffan eu bod eisoes yn ymgyrchu yn erbyn gor-dewdra gan annog cwmniau bwyd a diod i ymddwyn yn gyfrifol er mwyn gwella iechyd y cyhoedd.