Mae trafodaethau’n cael eu cynnal heddiw i geisio atal streic gan yrwyr lorïau petrol.
Fe fydd cynrychiolwyr yr undeb Unite yn cyfarfod gyda saith o’r cwmnïau dosbarthu o dan gadeiryddiaeth y corff cymodi, ACAS.
Eisoes, mae’r undeb wedi dweud na fyddan nhw ddim yn streicio tros y Pasg tra bydd y trafodaethau’n parhau.
Mae cynrychiolwyr o’r cwmnïau wedi dweud eu bod yn “obeithiol” bod modd cael cytundeb ar gwestiynau sy’n ymwneud ag iechyd a diogelwch.
Ac mae ACAS wedi cadarnhau y bydd “trafodaethau cymodi o sylwedd” yn digwydd yn ystod y dydd.
‘Gobeithiol’
“Mae’n hanfodol bod safonau cyffredin, isaf yn cael eu cytuno o ran diogelwch, hyfforddiant, cyflogau a phensiynau er mwyn gosod sylfaen o arfer da ar gyfer y diwydiant,” meddai Ysgrifennydd Cyffredinol Unite, Len McCluskey.
Fe gafodd panic ei achosi’r penwythnos diwetha’ ar ôl i’r Prif Weinidog, David Cameron, annog pobol i brynu tanwydd rhag ofn.
Mae pennaeth y corff sy’n cynrychioli’r dosbarthwyr petrol yn dweud bod eu ffydd wedi ei siglo yng ngallu’r Llywodraeth i ddelio ag argyfwng o’r fath.