Fe ddylai deintyddion holi eu cleifion a ydyn nhw’n yfed gormod o alcohol,  yn ôl ymchwilwyr o Brifysgol Caerdydd.

Maen nhw’n dweud y gall deintyddion wneud llawer i adnabod peryglon, sy’n cynnwys sawl math o ganser yn y geg a’r gwddw.

Fe gafodd y casgliadau eu cyhoeddi yng nghylchgrawn deintyddol Coleg y Llawfeddygon, gan argymell fod holiaduron yn cael eu rhoi i gleifion cyn iddyn nhw weld y deintydd.

Peryglon

Yn ogystal ag afiechydon, fe all yfed gormod arwain at ddirywiad yn y dannedd, meddai’r adroddiad, ac mae peryg i gleifion gwympo a chael niwed i’w hwynebau.

“Fe all gor-ddefnydd o alcohol arwain at ganser yn y geg, y laryncs a’r oesophagus ac efallai mai deintyddion fydd y cyntaf i sylwi ar y cyflyrau yma,” meddai Jonathan Shepherd, Athro llawfeddygaeth y geg yn Ysgol Ddeintyddiaeth Prifysgol Caerdydd.

“Rhaid i ni gyflwyno arf i sgrinio am alcohol sy’n gallu adnabod yfed peryglus a niweidiol, yn ogystal â chynnig triniaeth effeithiol.”

‘Angen cydweithio’

Yn ôl Jonathan Shepherd, fe ddylai’r Llywodraeth a deintyddion gydweithio ar gynllun sgrinio.

Roedd yn honni bod un o bob pump o ddynion ac un o bob saith o ferched yn cael sesiynau trwm o yfed yn rheolaidd.