Glaw yn y Sioe Frenhinol
Mae yna bryder y bydd prinder dŵr difrifol yr haf yma wedi wythnos sych iawn arall ledled Cymru a Lloegr.
Dim ond 27% o’r glaw cyfartalog ar gyfer mis Mawrth sydd wedi syrthio yng Nghymru yn ystod y mis.
Dywedodd Llywodraeth San Steffan bod llai na 1mm o law wedi disgyn ar draws pob rhan o Gymru a Lloegr, heblaw am dde orllewin Lloegr lle y disgynnodd 1mm o law.
Rhybuddiodd Asiantaeth yr Amgylchedd bod lefelau afonydd mor isel ag oedden nhw yn 1976, pan effeithiodd sychdwr mawr ar Brydain.
Roedd dau draean o afonydd Cymru a Lloegr yn “hynod o isel”, medden nhw.
Mae rhannau o Swydd Efrog, de ddwyrain Lloegr a dwyrain Anglia eisoes yn dioddef o sychdwr.
“Mae’n bwysicach nag erioed ein bod ni’n defnyddio dŵr yn ddoeth, oherwydd bod llai ohono,” meddai Helen Vale, cydlynydd cenedlaethol y sychdwr.
“Mae faint ydyn ni’n defnyddio gartref yn effeithio ar faint sydd ar gael mewn afonydd ar gyfer bywyd gwyllt.”