Mae dros 300 o weithwyr y BBC yn osgoi talu treth incwm yn y ffynhonnell, yn ôl Aelod Seneddol.
Dywedodd yr AS Ceidwadol, David Mowat, ei fod wedi darganfod bod 320 o weithwyr sy’n ennill dros £50,000 y flwyddyn yn osgoi talu treth incwm yn y ffynhonnell.
Ychwanegodd “nad oedd yn dderbyniol,” ac mai rhaglen Newsnight y BBC oedd wedi tynnu sylw at sgandal gweithwyr sifil yn osgoi talu treth.
“Mae mater osgoi treth yn greiddiol i’r ddadl ein bod ni i gyd yn wynebu her yr argyfwng ariannol â’n gilydd,” meddai yn Nhŷ’r Cyffredin.
“Roeddwn i wedi anfon cais rhyddid gwybodaeth at y BBC er mwyn gofyn faint o’u weithwyr oedd yn osgoi talu treth ar eu cyflogau yn y ffynhonnell,” meddai.
“Yr ateb oedd bod ganddyn nhw 320 o weithwyr gweinyddol, oedd yn ennill mwy na £50,000 o flwyddyn, ond nad oedd yn gweld yswiriant gwladol a Thalu wrth Ennill yn cael ei dynnu yn y ffynhonnell.
“Fe fyddwn i’n gofyn i’r fainc blaen, sy’n cynnal ymchwiliad ar draws y Llywodraeth er mwyn sicrhau nad yw hyn yn digwydd, ond sydd ddim yn cynnwys y BBC, i ailystyried hynny.”
Dywedodd llefarydd ar ran y BBC nad yw’r “unigolion rhain yn aelodau parhaol o staff y BBC ar felly dydyn nhw ddim yn talu treth ar eu cyflogau yn y ffynhonnell fel y mwyafrif o weithwyr y gorfforaeth”.
“Maen nhw fel arfer yn cael eu cyflogi i wneud swyddi penodol dros gyfnod penodedig gan gynnwys cyfarwyddo, golygu, a sgiliau medrus eraill. Pan mae person yn cael ei gyflogi fel hyn eu cyfrifoldeb nhw yw talu treth i Gyllid a Thollau ei Mawrhydi.
“Mae hyn yn cadw at reolau Cyllid a Thollau ei Mawrhydi ac yn arfer cyffredin ledled y byd darlledu a diwydiannau eraill.”