Fe fu na oedi i deithwyr heddiw ar ôl i gwmni trenau Eurostar ganslo rhai gwasanaethau, tra bod na oedi ar rai gwasanaethau eraill.

Cafodd pedwar trên  eu canslo, gan gynnwys rhai o Lundain i Baris a Brwsel, ac roedd na oedi o hyd at awr ar wasanaethau eraill ar ôl problemau gyda gwifren yn Ffrainc.

Roedd y trafferthion wedi amharu ar daith rhai o’r modelau a chynllunwyr oedd yn cymryd rhan yn Wythnos Ffasiwn Paris gyda rhai teithiau yn cymryd hyd at wyth awr i gyrraedd y brifddinas.

Roedd nifer o deithwyr wedi mynegi eu siom ar Twitter gan gwyno nad oedd unrhyw gyhoeddiadau i egluro pam bod y trên wedi dod i stop a beth oedd achos yr oedi.

Dywedodd llefarydd ar ran Eurostar bod y broblem bellach wedi ei datrys a byddai’r gwasanaethau yn rhedeg yn ôl yr arfer erbyn prynhawn ma.