Vince Cable
Mae cwmni ceir Nissan wedi cyhoeddi heddiw y bydd yn adeiladu model newydd yn eu ffatri yn y DU fel rhan o fuddsoddiad gwerth £125 miliwn, gan greu 2,000 o swyddi.

Fe fydd y carn newydd yn cael ei adeiladu yn ei ffatri yn Sunderland o ganol 2013 mewn prosiect sydd wedi denu grant o £9.3 miliwn gan y Llywodraeth.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Busnes Vince Cable bod hyn yn arwydd clir o hyder yn y diwydiant cynhyrchu.