Mae golygydd amddiffyn papur y Sun wedi cael ei harestio heddiw ar amheuaeth o dalu swyddogion mewn bywyd cyhoeddus am wybodaeth.

Roedd Virginia Wheeler, 32, wedi ymddangos yng ngorsaf yr heddlu yn Llundain i ateb cwestiynau ynglyn â thystiolaeth sydd wedi cael ei anfon gan bwyllgor safonau rheolaeth News Corporation i Scotland Yard.

Fe gadarnhaodd News International bod Virgina Wheeler wedi cael ei harestio mewn ebost i staff y papur.