James Murdoch
Mae James Murdoch wedi ymddiswyddo fel cadeirydd gweithredol News International, cafodd ei gyhoeddi heddiw.
Mewn datganiad, dywedodd News Corporation, sy’n berchen News International, y byddai’n caniatau iddo ehangu busnes teledu rhyngwladol y cwmni o’u pencadlys yn Efrog Newydd.
Mae James Murdoch wedi dod dan y lach yn sgil yr helynt hacio ffonau yn y News of the World.
Dywedodd ei dad, Rupert Murdoch, ei fod yn ddiolchgar am “arweinyddiaeth” ei fab yn News International.