Fe allai undebau llafur gynnal streic yn ystod y Gemau Olympaidd fel rhan o’u hymgyrch yn erbyn toriadau’r Llywodraeth, mae arweinydd undeb fwyaf Prydain wedi rhybuddio.
Dywedodd ysgrifennydd cyffredinol undeb Unite Len McCluskey nad oedd unrhyw gynlluniau penodol wedi cael eu gwneud hyd yn hon, ond roedd streic yn ystod y Gemau Olympaidd yn bosibilrwydd meddai.
Mae Len McCluskey wedi galw ar y cyhoedd i gymryd rhan mewn “anufudd-dod sifil” yn ystod cyfnod y gemau sy’n cychwyn ar 27 Gorffennaf, er mwyn gwarchod gwasanaethau cyhoeddus.
Mae’r Farwnes Warsi o’r Blaid Geidwadol yn dweud ei bod wedi ei “synnu” gan sylwadau Len McCluskey ac mae hi wedi gal war arweinydd y Blaid Lafur Ed Miliband i’w “orchymyn” i ddiystyru unrhyw gynlluniau i amharu ar y Gemau Olympaidd.