Nelson Mandela
Mae Nelson Mandela  wedi cael mynd adref o’r ysbyty ar ôl cael llawdriniaeth i ddefnyddio camera bychan er mwyn darganfod rhagor am broblem yn ei fol.

Mewn datganiad, dywedodd Arlywydd De Affrica, Jacob Zuma bod yr archwiliad wedi dangos nad oes ddim byd difrifol o’i le.

Diolchodd hefyd i’r cyhoedd am eu cefnogaeth a’u dymuniadau gorau ond doedd yna ddim cadarnhad o beth yn union sy’n bod ar Mr Mandela nag ychwaith yn lle mae yn derbyn triniaeth.

Mae Nelson Mandela yn 93 ac mae ei iechyd wedi dirywio yn arw yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Nid yw wedi cael ei weld yn gyhoeddus ers dathliadau Cwpan y Byd yn Ne Affrica yn 2010.

Treuliodd Nelson Mandela 27 o flynyddoedd yn y carchar am weithredu yn erbyn hiliaeth yn Ne Affrica. Cafodd ei ryddhau yn 1990 ac yn 1994 cafodd ei ethol yn Arlywydd croenddu cyntaf y wlad.