Banc Lloegr
Mae disgwyl y bydd Banc Lloegr yn argraffu £50 biliwn arall yr wythnos yma er gwaethaf arwyddion bod economi Ynysoedd Prydain yn dechrau gwella.
Y disgwyl yw y bydd Pwyllgor Polisïau Ariannol y Banc yn penderfynu mewn cyfarfod ddydd Iau i ychwanegu £50 biliwn i’r £275 biliwn y maen nhw eisoes wedi ei argraffu.
Maen nhw’n gobeithio atal dirwasgiad arall ar ôl i’r economi grebachu 0.2% yn chwarter olaf 2011.
Er gwaetha’r hwb ariannol mae arolygon yn awgrymu fod y diwydiant cynhyrchu wedi tyfu ym mis Ionawr, a’r diwydiant gwasanaethau wedi ehangu’n gynt nag erioed o’r blaen.
Dywedodd Malcolm Barr, dadansoddwr ar ran JP Morgan, ei fod wedi rhagweld diwedd y flwyddyn y byddai Banc Lloegr yn argraffu £75 biliwn.
Ond roedd y data cadarnhaol diweddaraf yn golygu fod £50 biliwn bellach yn fwy tebygol, meddai.