Peter Robinson
Roedd Prif Weinidog Gogledd Iwerddon ynghanol y dorf yn gwylio rownd derfynol un o brif gystadlaethau pêl-droed Gaeleg yn Armagh neithiwr.
Cafodd Peter Robinson, sydd hefyd yn arweinydd Plaid yr Unoliaethwyr Democrataidd (DUP) wahoddiad gan Gyngor Ulster i wylio timau Derry a Tyrone yn chwarae yn gêm olaf Cwpan DR McKenna.
Fel arfer y gymuned genedlaetholgar sy’n gwylio gemau pêl-droed Gaeleg yng Ngogledd Iwerddon.
Roedd y Dirprwy Brif Weinidog Martin McGuiness hefyd yn y gêm. Dywedodd bod presenoldeb Peter Robinson yno yn dystiolaeth byw o’i agwedd gynhwysol a bod y digwyddiad “yn ddarn bychan arall o hanes”.
Ychwanegodd dirprwy arweinydd y DUP, Nigel Dodds bod presenoldeb y Prif Weinidog hefyd yn brawf o’r holl gynnydd sydd wedi bod yng Ngogledd Iwerddon.
“Dyma neges glir ac arwydd i bobl ein bod yn symud yn ein blaenau a gyda’n gilydd yng Ngogledd Iwerddon,” meddai.