Stadiwm Anfield yn Lerpwl
Cafodd gwr 59 oed o Ogledd Cymru ei arestio neithiwr yn dilyn honiad ei fod wedi gwneud arwydd hiliol yn ystod y gêm yng ngornest Cwpan FA rhwng Lerpwl a Manchester United.
Yn ôl Heddlu Glannau Mersi, uned arbennig troseddau casineb y Llu sy’n ymchwilio i’r achos ac mae’r swyddogion wedi edrych ar luniau teledu o’r gêm wedi i lun gael ei ddangos ar Twitter.
Dyma’r tro cyntaf i’r ddau dîm gyfarfod ers y digwyddiad hiliol rhwng Patrice Ezra o Manchester United a Luis Suarez o Lerpwl llynedd. Cafodd Suarez ei wahardd rhag chwarae am wyth gêm wedi i’r FA ei gael yn euog o ddweud pethau hiliol am Evra.
Roedd y cefnogwyr wedi cael rhybydd dros yr uchelseinydd cyn i’r gêm gychwyn yn rhybuddio yn erbyn ymddygiad hiliol a homoffobig. Dywedodd yr Heddlu beth bynnag bod y mwyafrif o bobl wedi byhafio ac mai 17 gafodd eu taflu allan o’r stadiwm a 2 gafodd eu harestio.
Dywedodd Y Prif Uwch Arolygydd Jon Ward o Heddlu Glannau Mersi eu bod yn gwerthfawrogi cyd-weithrediad clwb pêl droed Lerpwl a Heddlu Gogledd Cymru.
“Fe fyddwn yn ymchwilio’n drylwyr i’r honiadau yma” meddai. “Ni allwn ganiatau i’r math yma o ymddygiad amharu ar fwynhad cefnogwyr go iawn.”
Lerwpl enillodd y gem 2 -1 .