Aberystwyth 1–1 Llandudno (Aber yn curo ar ôl c.o.s.)
Mae Aberystwyth yn y wyth olaf Cwpan Cymru ar ôl curo Llandudno ar giciau o’r smotyn yng Nghoedlan y Parc mewn un o wyth gêm brynhawn Sadwrn. Un gôl yr un oedd hi ar ddiwedd y 90 munud diolch i goliau Lee Jones i Landudno hanner ffordd trwy’r hanner cyntaf ac Alex Samuels i Aber hanner ffordd trwy’r ail gyfnod. Yna ar ôl amser ychwanegol di sgôr enillodd Aber o 5-4 ar giciau o’r smotyn.
Lido Afan 2–2 Airbus (Airbus yn curo ar ôl c.o.s.)
Roedd angen ciciau o’r smotyn ar Airbus i guro Lido Afan yn Stadiwm Marstons hefyd wedi iddi orffen yn 2-2 ar ddiwedd y 90 munud. Rhoddodd Andy Hill y tîm cartref ar y blaen o’r smotyn wedi dim ond 12 munud ond roedd Airbus ar y blaen erbyn yr egwyl diolch i gôl yr un gan y ddau frawd, Mark a Gavin Cadwallader. Unionodd Liam Thomas i Lido yn y munud olaf i orfodi amser ychwanegol ond Airbus aeth a hi o 5-4 ar giciau o’r smotyn.
Bwcle 2–4 Bala (Ar ôl a.y.)
Roedd angen amser ychwanegol ar y Bala i drechu Bwcle yn Globe Way wedi iddi orffen yn 2-2 ar ôl 90 munud. Rhoddodd Lee Hunt yr ymwelwyr o’r Uwch Gynghrair ar y blaen wedi 16 munud cyn i Chris Mason ddyblu’r fantais wedi 28 munud. Ond tarodd y tîm o’r Gynghrair Undebol yn ôl gyda gôl Anthony Williams bum munud cyn yr egwyl a chic o’r smotyn Mike Burke hanner ffordd trwy’r ail hanner. Amser ychwanegol amdani felly a’r Bala aeth a hi diolch i ddwy gôl arall gan Lee Hunt.
Caerfyrddin 3–1 AFC Porth (Ar ôl a.y.)
AFC Porth oedd yr unig dîm o Gynghrair Cymru’r De ar ôl yn y gystadleuaeth ond mae hwythau allan bellach ar ôl colli yn erbyn Caerfyrddin ar ôl amser ychwanegol ar Barc Waun Dew. Porth aeth ar y blaen diolch i gôl Robbie Thomas wedi dim ond wyth munud ond unionodd Nick Harryh’r sgôr cyn yr egwyl. Felly yr arhosodd hi tan y diwedd felly roedd angen amser ychwanegol a Chaerfyrddin aeth a hi diolch i gic o’r smotyn Tim Hicks a gôl hwyr Julian Alsop.
Y Fflint 1–3 Castell Nedd
Yr unig dîm o’r Uwch Gynghrair a lwyddodd i guro gwrthwynebwyr o gynghrair is o fewn y 90 munud oedd Castell Nedd wrth iddynt guro’r Fflint o 3-1 oddi cartref ar Gae y Castell. Rhoddodd dwy gôl Craig Hughes ac un Chris Jones fantais gyfforddus i’r ymwelwyr wedi ychydig dros hanner y gêm. Ac er i Jon Rush sgorio i’r Fflint yn fuan wedyn y tîm o’r Uwch Gynghrair aeth a hi.
Prestatyn 0–2 Derwyddon Cefn (C.U.H.G)
Yr unig dîm o du allan i Uwch Gynghrair Cymru sydd yn y rownd gogynderfynol yw Derwyddon Cefn wedi iddynt guro Prestatyn o 2-0 ar Erddi Bastion. Roedd gôl Adam Hesp wedi 12 munud a gôl Joe Price ym munud olaf y gêm yn ddigon i sicrhau buddugoliaeth i’r tîm o Gynghrair Undebol Huws Gray.
Rhyl 3–3 Llanelli (Llanelli’n ennill ar ôl c.o.s.)
Llanelli aeth a hi ar ôl ciciau o’r smotyn yn erbyn deg dyn y Rhyl ar y Belle View yng ngêm fyw Sgorio. 2-2 oedd hi ar ddiwedd y 90 munud ac yna 3-3 ar ddiwedd yr amser ychwanegol cyn i’r deiliaid guro o 5-4 ar y ciciau o’r smotyn.
Y Seintiau Newydd – Casnewydd (Uwch Gynghrair Blue Square)
Mae Casnewydd allan o’r gwpan ar ôl gyrru tîm gwan i herio’r Seintiau Newydd yn Neuadd y Parc. Roedd gan y tîm o Uwch Gynghrair y Blue Square gêm gynghrair ar yr un pryd ac roedd y Seintiau’n llawer rhy gryf i’w hail dîm/tîm iau. Roedd goliau hanner cyntaf Connell Rowlingson, Alex Darlington, Greg Draper a Craig Jones yn hen ddigon i sicrhau buddugoliaeth gyfforddus i’r tîm o Uwch Gynghrair Cymru.
Y Rownd Gogynderfynol
Y Bala v Llanelli
Airbus v Caerfyrddin
Aberystwyth v Derwyddon Cefn
Y Seintiau Newydd v Castell Nedd