Y Rhyl 3–3 Llanelli (Llanelli yn ennill ar ôl c.o.s.)

Rhyl yn erbyn Llanelli ar y Belle View oedd gêm fyw Sgorio ym mhedwaredd rownd Cwpan Cymru a wnaeth hi ddim siomi wrth i Lanelli ennill yn y diwedd ar ôl ciciau o’r smotyn. Llanelli fel y tîm o’r Uwch Gynghrair a deiliaid y gwpan oedd y ffefrynnau ond gwnaeth y Rhyl, y tîm o Gynghrair Undebol Huws Gray gêm ohoni ac roeddynt yn anlwcus i fynd allan ar ôl i’r gêm ei hun orffen yn gyfartal, tair gôl yr un.

Hanner Cyntaf

Roedd hi’n dasg anodd i’r Rhyl ar ddechrau’r gêm felly ond roedd talcen caled iawn yn ei wynebu ar ôl wyth munud wedi i Neil Coverley gael ei anfon oddi ar y cae. Taclodd Coverley Craig Williams gyda’i ddwy droed yn yr awyr a doedd gan y dyfarnwr, Lee Evans, fawr o ddewis ond dangos y cerdyn coch.

Ond deg dyn y Rhyl a aeth ar y blaen serch hynny a hynny wedi 13 munud. Cafwyd croesiad da o’r asgell chwith a thasg hawdd oedd hi i Tom Rowlands guro Craig Richards yn y cwrt chwech.

Roedd y bêl yng nghefn rhwyd y Rhyl wedi 20 munud ond barnwyd bod Rhys Griffiths yn cam sefyll. A bu rhaid i’r gôl-geidwad cartref, Ben Jones, arbed yn dda pan beniodd Chris Venables tua’r gornel uchaf bum munud yn ddiweddarach.

Ond braidd yn siomedig oedd Llanelli yn yr hanner cyntaf mewn gwirionedd ac roeddynt yn ffodus braidd i fod yn gyfartal ar hanner amser. O’r smotyn y daeth y gôl honno ddau funud cyn yr egwyl wedi i Chris Thomas gael ei lorio yn y cwrt cosbi gan Stefan Halewood. Griffiths a gymerodd y gic a doedd dim gobaith i Ben Jones wrth i’r blaenwr ei gosod reit yn y gornel isaf.

Ail Hanner

Gwastraffodd Mike Pritchard gyfle da i’r Rhyl ar yr awr wedi i Richards wneud smonach o groesiad. Ond roedd Llanelli yn mwynhau dipyn o’r meddiant yn erbyn y deg dyn a doedd fawr o syndod i’r ymwelwyr fynd ar y blaen wedi 66 munud. Methodd y Rhyl a chlirio’r bêl ar ôl cic gornel a disgynnodd yn y diwedd i’r amddiffynnwr canol, Stuart Jones, a oedd wedi aros yn y cwrt cosbi a gorffennodd yntau fel blaenwr i roi ei dîm ar y blaen.

Cafodd Griffiths gyfle i ychwanegu trydedd y Cochion yn y deg munud olaf ond tarodd ei ergyd yn erbyn y postyn a gyda dim ond un gôl ynddi roedd y Rhyl dal yn y gêm. Fe bwysodd y tîm cartref yn ddyfal yn y munudau olaf a daeth gôl haeddianol iddynt ddau funud cyn y diwedd. Ryan Willams oedd y sgoriwr yn dilyn gwaith da Pritchard ar ochr dde’r cwrt cosbi a rhaid oedd cael amser ychwanegol i setlo’r gêm.

Amser Ychwanegol

Cafwyd drama wedi dim ond tri munud o’r amser ychwanegol wrth i Venables roi Llanelli yn ôl ar y blaen. Cafwyd croesiad da gan Craig Williams o’r chwith a pheniad da gan Griffiths i lwybr Venables yn y cwrt chwech a thasg hawdd oedd rhwydo i’r chwaraewr canol cae.

Y Rhyl ar ei hôl hi eto felly ond taro’n ôl a wnaethant yn ail hanner yr amser ychwanegol er mawr glod iddynt. Unionodd y tîm cartref am yr eildro yn y gêm wedi 113 munud ac roedd Pritchard yn ei chanol hi eto. Y blaenwr a gafodd ei lorio yn y cwrt cosbi cyn i Ryan Williams sgorio o’r smotyn.

Y Rhyl yn llwyddo gydag un gic o’r smotyn felly ond roedd mwy i ddod.

Ciciau o’r Smotyn

Roedd hi’n ymdrech anhygoel gan y Rhyl a oedd wedi chwarae bron i ddwy awr gyda deg dyn ond roedd rhaid iddynt ddibynnu yn y diwedd ar loteri ciciau o’r smotyn.

Llwyddodd y ddau dîm gyda’u tair cic gyntaf cyn i Shaun Dowling gerdded at y smotyn. Arbedodd Craig Richards gic yr amddiffynnwr cyn i Antonio Corbisiero a Craig Williams lwyddo gyda dwy gic olaf y Cochion.

Deiliaid y gwpan yn yr het ar gyfer rownd yr wyth olaf felly ond pencampwyr 2006,Y Rhyl, yn dangos nad oes llawer o fwlch rhwng yr Uwch Gynghrair a’r Gynghrair Undebol.