Caerloyw 40–3 Gleision
Cafodd tîm ifanc y Gleision gweir go iawn gan Gaerloyw yn y Cwpan LV brynhawn Sadwrn. Sgoriodd y Saeson bum cais yn Kingsholm wrth i rediad siomedig y tîm o Gymru yn y gystadleuaeth eleni barhau.
Un newydd da i’r Gleision oedd gweld y cefnwr, Ben Blair yn dychwelyd i’r tîm ar ôl cyfnod hir yn dioddef ag anaf i’w ben glin. Fe lwyddodd i chwarae dros awr er mai dyma’i ymddangosiad cyntaf ers Hydref 2010. Ac yn wir, Blair a sgoriodd bwyntiau cyntaf y gêm gyda chic gosb wedi dau funud.
Ond dim ond un tîm oedd ynddi wedi hynny wrth i Gaerloyw sgorio dau gais cyn hanner amser. Croesodd Peter Buxton wedi wyth munud cyn i Tim Molenaar ychwanegu’r ail chwe munud cyn yr egwyl.
Daeth tri arall i’r tîm cartref yn yr ail hanner, dau mewn dau funud i James Simpson-Daniel toc wedi’r awr ac un i Andy Hazell ddeg munud cyn y diwedd.
Ychwanegodd Ryan Mills bymtheg pwynt â’i droed wrth iddi orffen yn 40-3 o blaid y Saeson.
Mae’r canlyniad yn gadael y Gleision heb bwynt ar waelod grŵp 2 gyda dim ond un gêm ar ôl.