Scarlets 27–19 Gwyddelod Llundain

Mae’r Scarlets ar frig eu grŵp yn y Cwpan LV yn dilyn buddugoliaeth dda yn erbyn Gwyddelod Llundain ym Mharc y Scarlets nos Sadwrn. Sgoriodd Viliami Iongi ddau gais a chiciodd Dan Newton yn dda wrth i’r rhanbarth o Gymru ennill gêm ddigon cyffrous.

Hanner Cyntaf

Y Gwyddelod oedd y tîm gorau yn y chwarter cyntaf ond ni chawsant gais i ddangos am eu goruchafiaeth er iddynt ddod yn agos ar ddau achlysur. Bu bron i’r cefnwr, Tom Homer, sgorio wedi tri munud ac felly hefyd yr asgellwr, Marland Yarde, hanner ffordd trwy’r hanner. Ond dyfarnodd y dyfarnwr teledu, Tony Rowlands, na thirwyd y bêl ar y ddau achlysur.

Cic gosb yr un oedd unig bwyntiau’r 20 munud cyntaf felly, y naill gan Homer wedi deg munud a’r llall gan gefnwr y Scarlets, Dan Newton, dri munud yn ddiweddarach.

Yna, dechreuodd y Scarlets ddod fwyfwy i’r gêm yn ail hanner yr hanner cyntaf a’r tîm cartref a sgoriodd gais cyntaf y gêm wedi 27 munud. Lledodd yr olwyr y bêl yn dda cyn i’r asgellwr, Viliami Iongi, orffen y symudiad yn y gornel dde. Llwyddodd Newton gyda throsiad anodd o’r ystlys i roi mantais o saith pwynt i’r tîm cartref gydag ychydig dros ddeg munud o’r hanner ar ôl.

Gorffennodd y Gwyddelod yr hanner gyda phedwar dyn ar ddeg wedi i Shontayne Hape gael ei anfon i’r gell gosb am daclo Newton heb y bêl. Cododd Newton i gymryd y gic gosb ganlynol ond braidd yn rhy bell oedd hi i’r ciciwr wrth iddi aros yn 10-3 ar hanner amser.

Ail Hanner

Roedd y Gwyddelod yn ôl o fewn pwynt wedi deg munud o’r ail gyfnod diolch i ddwy gic gosb lwyddiannus arall o droed Homer, 10-9 i’r Scarlets gyda hanner awr ar ôl.

Roedd y Cymro yn nhîm Gwyddelod Llundain, Darren Allinson, yn ffodus iawn i aros ar y cae wedi hynny ar ôl iddo ddyrnu un o chwaraewyr y Scarlets o dan drwyn Nigel Owens ond troi’r ffordd arall a wnaeth y dyfarnwr wrth i’r mewnwr aros ar y cae.

Daeth ail gais i’r Scarlets wedi 57 munud yn dilyn cyfnod hir o bwyso gan y blaenwr wrth linell gais y Gwyddelod. Yr eilydd o brop, Deacon Manu, a groesodd y gwyngalch yn y diwedd ac roedd dwy sgôr rhwng y ddau dîm yn dilyn trosiad Newton, 17-9.

Ond roedd y tîm cartref ar ei hôl hi yn dilyn tri munud trychinebus hanner ffordd trwy’r hanner. Caeodd Homer y bwlch i bum pwynt i ddechrau gyda chic gosb ar yr awr cyn i Topsy Ojo sgorio cais cyntaf yr ymwelwyr ddau funud yn ddiweddarach. Daeth yr asgellwr oddi ar ei asgell i chwilio am y bêl a bylchodd trwy ganol yr amddiffyn yn llawer rhy hawdd. 19-17 i’r Gwyddelod felly ar ôl trosiad Homer.

Pum munud yn unig a barodd mantais y Gwyddelod serch hynny wrth i Newton drosi cic gosb arall i roi’r fantais yn ôl i’r Scarlets gydag ychydig dros ddeg munud ar ôl. Ac amddiffynnodd y tîm cartref yn gryf yn y munudau olaf cyn i Iongi goroni’r fuddugoliaeth gyda’i ail gais ef a thrydydd y tîm yn yr eiliadau olaf. 27-19 i’r Scarlets yn dilyn trosiad Newton a chanlyniad gwych i dîm ifanc y Scarlets.

Canlyniad a oedd wrth fodd capten y tîm, Gareth Maule: “Fe wnaeth y bois yn dda, roedd hi’n gêm anodd. Wnaethon ni ddim dechrau yn rhy dda ond fe ddaethon ni’n ôl iddi a brwydro’n galed am y fuddugoliaeth yn y diwedd.”

Mae’r Scarlets bellach ar frig grŵp 3 gyda thair buddugoliaeth allan o dair.