Gateshead 2–3 Casnewydd

Cafodd Casnewydd fuddugoliaeth wych oddi cartref yn Stadiwm Rhyngwladol Gateshead heddiw. Roedd y tîm cartref sydd yn brwydro am y safleoedd ail gyfle tua brig y tabl ddwy gôl ar y blaen yn gynnar yn yr ail hanner ond yn ôl y daeth y tîm o Gymru. Hanerodd Elliott Buchanan y fantais toc cyn yr awr cyn i goliau hwyr Sam Foley a Jake Harris sicrhau tri phwynt gwerthfawr i dîm Justin Edinburgh.

Rhoddodd Liam Hatch Gateshead ar y blaen yn yr amser a ganiateir am anafiadau ar ddiwedd yr hanner cyntaf gyda pheniad o gic gornel. Ac roedd hi’n ddwy wedi saith munud o’r ail hanner diolch i gôl dda Jon Shaw o ochr y cwrt cosbi.

Roedd Casnewydd yn ail o waelod y Gyngres ar ddechrau’r gêm ond dangosodd y tîm o Gymru ysbryd a dyfalbarhad er mwyn taro’n ôl. Rhwydodd Buchanan y gyntaf gydag ergyd gywir i gornel isaf y rhwyd yn dilyn pas David Pipe wedi 57 munud.

Ac roedd hi’n gyfartal ym munud olaf y 90 wedi i Sam Foley rwydo yn y cwrt cosbi. Byddai pwynt wedi bod yn ganlyniad da i Gasnewydd ond roedd gwell i ddod. Cafodd Jamie Chandler ei anfon oddi ar y cae i Gateshead i ddechrau cyn i Harris gipio’r tri phwynt gydag ergyd wych o du allan i’r cwrt cosbi wedi pedwar munud o amser a ganiateir am anafiadau.

Mae Casnewydd yn aros yn safleoedd y gwymp er gwaethaf y fuddugoliaeth ond maent yn codi dros Hayes a Yeading ac Alfreton i’r unfed safle ar hugain yn nhabl Uwch Gynghrair y Blue Square.

Cwpan Cymru

Yn y cyfamser collodd ail dîm/tîm iau  Casnewydd oddi cartref yn erbyn Y Seintiau Newydd ym mhedwaredd rownd Cwpan Cymru. Roedd goliau hanner cyntaf Connell Rowlingson, Alex Darlington, Greg Draper a Craig Jones yn hen ddigon i sicrhau buddugoliaeth gyfforddus i’r tîm o Uwch Gynghrair Cymru yn Neuadd y Parc.