Speight - Sgoriwr yr ail (llun o Wefan Wrecsam)
Wrecsam 2–0 Caerfaddon
Cafwyd ymateb da gan Wrecsam heddiw ar ôl iddynt golli yn y gynghrair am y tro cyntaf ers hydoedd nos Fawrth. Caerfaddon oedd yr ymwelwyr anffodus i’r Cae Ras a 2-0 oedd y sgôr terfynol diolch i goliau Curtis Obeng a Jake Speight.
13 munud yn unig a gymerodd hi i Obeng sgorio’r gôl agoriadol. Cyfunodd yr amddiffynnwr yn dda gyda Speight cyn curo’r Cymro yn y gôl i Gaerfaddon, Glyn Garner.
Yn y pen arall, gwnaeth gôl-geidwad Wrecsam, Joslain Mayebi, yn dda i atal Marley Watkins wedi 20 munud ac ymdrech Paul Stonehouse yn hwyr yn yr hanner.
Ac roedd Wrecsam ym mhellach ar y blaen toc wedi’r egwyl wedi i Speight gael ei lorio yn y cwrt cosbi gan Marc Preece. Cododd Speight i gymryd y gic a’i gosod heibio i Garner.
Cadwodd Mayebi ei lechen lân wrth arbed ymdrech hwyr Adam Connolly a chafodd Andy Morrell a Jamie Tolley gyfleoedd i ychwanegu trydedd i Wrecsam ond roedd dwy yn ddigon i sicrhau’r tri phwynt.
Mae Wrecsam yn aros yn ail yn nhabl Uwch Gynghrair y Blue Square er gwaethaf y fuddugoliaeth gan i Fleetwood lwyddo i wneud rhywbeth na allai Wrecsam ei wneud nos Fawrth sef ennill oddi cartref yn Forest Green.