Nick Clegg
Fe fydd Nick Clegg heddiw yn annog George Osborne i gyflwyno trothwy’r lwfans personol i £10,000 yn gynt nag oedd y Llywodraeth wedi ei bwriadu oherwydd y pwysau cynyddol ar deuluoedd.
Roedd y Llywodraeth Glymblaid wedi cytuno i godi trothwy’r lwfans dros gyfnod o amser ond fe fydd y Dirprwy Brif Weinidog yn dweud heddiw nad yw hynny’n ddigon a bod yn rhaid gweithredu’n fuan gan fod teuluoedd yn wynebu cyfnod argyfyngus.
Fe fydd Nick Clegg ac Ysgrifennydd y Trysorlys Danny Alexander yn annog y Canghellor i gynyddu trethi pobl gyfoethog er mwyn ariannu gostyngiad mewn treth incwm i bobl sydd ar gyflogau isel, cyn ei Gyllideb ym mis Mawrth.