Y Prif Weinidog, David Cameron (o wefan Rhif 10)
Fe ddaeth i’r amlwg heno y bydd cyfarfod yn digwydd yn fuan rhwng David Cameron ac Alex Salmond.

Cyhoeddodd llefarydd ar ran 10 Stryd Downing y bydd trefniadau’n cael eu gwneud yn ystod y dyddiau nesaf am drafodaeth rhwng y ddau brif weinidog ar refferendwm ar annibyniaeth i’r Alban.

Fe wnaed y cyhoeddiad o fewn oriau i gyhoeddi gwahoddiad at Alex Salmond i gyfarfod Ysgrifennydd yr Alban, Michael Moore, yr wythnos yma.

Er na chafodd y gwahoddiad hwnnw ei wrthod yn ddiamwys, neges llywodraeth yr SNP oedd y dylai’r cyfarfod hwnnw ddigwydd ar ôl iddyn nhw gyhoeddi eu cynlluniau ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus yn senedd yr Alban yr wythnos nesaf.

Mae’n amlwg hefyd eu bod yn gryf o’r farn mai gyda’r Prif Weinidog David Cameron y dylai’r trafodaethau fod ac nid gydag Ysgrifennydd yr Alban.

Meddai’r llefarydd ar ran Rhif 10 Stryd Downing:

“Mae’r Prif Weinidog wedi ei gwneud hi’n glir ei fod yn hapus i gyfarfod Alex Salmond ac y bydd trefniadau am hynny’n cael eu gwneud yn ystod y dyddiau nesaf.

“Fodd bynnag, mae o’r farn hefyd y dylai Alex Salmond dderbyn y gwahoddiad i gyfarfod Ysgrifennydd yr Alban i drafod ei safbwyntiau ar y broses ymgynghori.”

Croesawu

Mae Alex Salmond wedi croesawu gwahoddiad David Cameron – gan honni iddo ofyn am gyfarfodydd gydag ef chwe gwaith yn y gorffennol.

Meddai llefarydd ar ran Alex Salmond:

“Mae hyn yn ddatblygiad i’w groesawu’n fawr, ac mae’n cynrychioli cynnydd gwirioneddol – mae’n llawer gwell na’r ymateb gychwynnol ddydd Gwener i gais Prif Weinidog yr Alban am gyfarfod gyda David Cameron a’r Dirprwy Brif Weinidog.

“Edrychwn ymlaen at gael cyfarfod wedi ei drefnu’n fuan.”

Ychwanegodd y llefarydd fod Alex Salmond bob amser yn hapus i gyfarfod Ysgrifennydd yr Alban yn ogystal, ond mai’r amser am hynny fydd ar ôl i lywodraeth yr Alban wneud cyhoeddiad ar yr ymgynghori cyhoeddus yn senedd y wlad yr wythnos nesaf.