Mae dyn wnaeth geisio lladd ei gariad trwy ei chladdu’n fyw mewn bocs cardboard wedi ei garcharu am 20 mlynedd.

Roedd Marcin Kasprzak wedi ymosod ar Michelina Lewandowska gyda Taser, wedi ei chlymu a’i gagio a’i chladdu dan bridd, dail a boncyff coeden 88 pwys mewn coedlan ger eu cartref yn Huddersfield.

Llwyddodd y ddynes 27 oed i ddianc o’r bocs ar ôl rhyw awr trwy ddefnyddio’i modrwyo dyweddïo i dorri’n rhydd.

Cafwyd Kasprzak yn euog o geisio lladd yn Llys y Goron Leeds.

Cafodd ei gyfaill Patryk Borys, 18 oed, ei ddedfrydu i bedair blynedd a hanner dan glo am helpu i herwgipio’r ddynes.

Yn ôl y Barnwr Peter Collier roedd “cynllwyn i geisio lladd”.

“Eich bwriad oedd na fyddai hi yn cael ei darganfod a’ch bwriad oedd iddi farw yno.

“Mi fyddai’r farwolaeth yr oeddech wedi ei bwriadu yn hir ac araf. Mae’n hollol ofnadwy dychmygu’r math o farwolaeth yr oeddech wedi ei fwriadu ar ei chyfer.

“Mae’n rhaid i mi ystyried natur ofnadwy’r achos hwn. Fel yr wyf eisoes wedi dweud, rhaid bod cael eich claddu’n fyw yn un o’r ffyrdd gwaethaf o farw y gall unrhyw un ei ddychmygu.”