Mae Nwy Prydain wedi torri biliau pum miliwn o’u cwsmeriaid ar ôl cyhoeddi heddiw eu bod yn cyflwyno gostyngiad o 5% yn eu biliau trydan.
Fe fydd y gostyngiad yn cael ei gyflwyno’n syth a bydd yn golygu y bydd cwsmeriaid yn arbed £24 yn eu biliau ar gyfartaledd.
Daw’r cyhoeddiad chwe mis ar ôl i berchnogion y cwmni, Centrica, gyhoeddi cynnydd o 18% mewn biliau trydan a 16% i filiau nwy ym mis Awst.
Dywed Nwy Prydain na fydd na ostyngiad mewn prisiau nwy, ond mae Southern Electric a Swalec wedi dwedu heddiw y byddan nhw’n torri eu prisiau nwy 4.5% o 26 Fawrth.
Mae’n dilyn cyhoeddiad ddoe gan gwmni ynni EDF eu bod yn torri prisiau nwy o 5%. Mae disgwyl i gwmniau eraill gyflwyno gostyngiad hefyd.