Mae cwmni Little Chef i gau 67 o’u 161 o fwytai a allai olygu bod rhwng 500 a 600 o weithwyr i golli eu swyddi.
Mae’r safleoedd sydd wedi cael eu clustnodi i gau wedi bod yn gwneud colled ers blynyddoedd oherwydd ffactorau economaidd a lleoliad, meddai’r cwmni.
Fe fydd y swyddi sy’n cael eu colli yn rhai rhan a llawn-amser mewn safleoedd ar draws y DU.
Fe fydd yn gadael gweithlu o 1,500.
Cafodd Little Chef ei phrynu gan grŵp RCapital pan aeth i ddwylo’r gweinyddwyr yn 2007, gan achub 193 o’r 235 o fwytai a mwy na 3,500 o swyddi.
Yn 2008 cafodd sawl un o’r bwytai eu hailwampio gan y cogydd seren Michelin Heston Blumenthal ar gyfer sioe Channel 4.
Dywedodd y cwmni heddiw bod cau’r bwytai yn “hanfodol” er mwyn canolbwyntio ar y safleoedd hynny sydd yn llwyddo.
Past Times i gau 47 o’u siopau
Yn y cyfamser mae cwmni Past Times wedi cyhoeddi eu bod wedi cau bron i hanner eu siopau, gan olygu bod cannoedd o swyddi wedi cael eu colli.
Roedd y grŵp wedi cau 47 o’u 98 o siopau neithiwr ar ôl cyfnod masnachu trychinebus dros y Nadolig.
Mae’n debyg bod hyd at 400 o swyddi wedi diflannu – bron i hanner y gweithlu o 1,000 ar hyd y DU. Dyw’r cwmni heb gyhoeddi lleoliadau’r siopau sydd wedi cau.
Mae’r cwmni ar hyn o bryd mewn trafodaethau i geisio gwerthu’r busnes.