Mae pryderon rhieni yn parhau i effeithio niferoedd  y plant sy’n cael brechiadau angenrheidiol ym Mhrydain, yn ôl arolwg newydd.

Mae mwy nag un ym mhob tri rhiant yn ofni rhoi unrhyw frechiadau i’w plant, ac yn barod i ohirio’r brechiadau oherwydd pryderon dros ddiogelwch eu plant.

Dyma gasgliadau un arolwg a gyhoeddwyd heddiw sy’n pwysleisio’r angen am ddarparu mwy o wybodaeth i rieni.

Mae’n wyth mlynedd ers i Sefydliad Iechyd y Byd gadarnhau nad yw’r brechiad MMR yn gysylltiedig ag awtistiaeth, ond mae’r arolwg wedi darganfod fod mwy na chwarter rheini yn dal i boeni y gallai’r brechlyn achosi’r cyflwr yn eu plant.

Mae’r arolwg yn amcangyrfif fod hyd at dair miliwn o blant a phobol ifanc heb gael unai’r frechlyn MMR cyntaf neu’r ail, sydd i fod i ddiogelu plant yn erbyn cyflyrau a allai fod yn farwol – sy’n golygu bod hyd at un o bob pedwar yn dal heb eu diogelu.

O ganlyniad, mae nifer y bobol sy’n ddioddef o’r frech goch wedi bod yn codi’n flynyddol ers 2005.

Mae’r ffigyrau diweddaraf yn dangos fod nifer rhai sy’n cael y frech goch deg gwaith yn uwch ym Mhrydain yn 2011 nag yn 2010.

Cafodd yr arolwg ei gynnal gan Calpol, mewn cydweithrediad â gwefan i rieni BabyCentre, gan holi 312 o rieni.