Mae llwyddiant rhif 101 yr heddlu yng Nghymru yn golygu y bydd yn cael ei ddefnyddio ar draws Prydain ar gyfer achosion sydd ddim yn rhai brys.
Golyga hyn fod pob Heddlu yng Nghymru a Lloegr yn defnyddio’r un rhif.
101 yw’r rhif sy’n cael ei ddefnyddio i adael i’r heddlu wybod am drosedd neu anrhefn os nad yw’n fater brys. 999 sy’n parhau i gael ei ddefnyddio ar gyfer argyfyngau ac achosion brys.
Mae 101 yn rif hawdd i’w gofio ac mae’n lleihau’r pwysau ar y rhai sy’n ymateb i alwadau 999, meddai’r heddlu.
“Mae’n wych gweld rhif 101 yn cael ei ddefnyddio ar draws Prydain,” meddai Nick Ingram ar ran yr Heddlu.
“Roedden ni’n falch iawn o lansio’r rhif yng Nghymru yn 2009. Mae wedi bod yn llwyddiannus yn heddlu Dyfed-Powys.
“Mae nifer y galwadau i’r rhif wedi cynyddu ers i ni ei lansio. Ar gyfartaledd, rydan ni’n cael 15,000 o alwadau’r mis,” meddai cyn egluro mai ychydig llai na 6,000 o alwadau oedd y rhif yn ei gael yn y 6 mis cyntaf wedi’i lansio.
Gellid darllen fwy o wybodaeth am rif 101 ar www.police.uk/101 neu www.dyfed-powys.police.uk