Mae arweinwyr busnesau ac undebau wedi annog y Llywodraeth i fwrw ymlaen â chynlluniau ar gyfer cyswllt trên cyflym rhwng Llundain a Birmingham.

Mewn llythyrau at y Financial Times, y Daily Telegraph a’r Guardian, maen nhw’n dweud y byddai’r HS2 arfaethedig yn hwb i’r economi ac yn creu swyddi.

Mae’r penderfyniad terfynol ynglŷn â’r cyswllt trenau dadleuol, a fyddai yn mynd drwy etholaeth Ysgrifennydd Cymru, Cheryl Gillan, yng nghanolbarth Lloegr, wedi cael ei ohirio tan ddiwedd y mis.

Mae cefnogwyr y fenter yn cynnwys cyfarwyddwr Siambr Fasnach Prydain, John Longworth, sy’n dweud yn y Telegraph fod “isadeiledd sâl” Prydain yn “rhwystr enfawr” i dwf tymor hir.

Dim ond 70 milltir o gledrau cyflym sydd gan y DU ar hyn bryd, sydd ymhell tu ôl rhan fwyaf gwledydd datblygedig eraill y byd fel Ffrainc a Japan, ac sydd hefyd yn sylweddol is na 422 milltir o gledrau cyflym Moroco, a’r 342 milltir o gledrau cyflym yn Sawdi Arabia.

“Mae’r diffyg cledrau cyflym sy’n cysylltu rhannau gogleddol o Brydain gyda Llundain a’r Undeb Ewropeaidd yn embaras parhaol i’r rheiny sy’n ceisio hyrwyddo busnesau Prydeinig dramor,” meddai’r penaethiaid yn eu llythyron.

Yn y llythyr i’r Guardian, sydd wedi ei arwyddo gan Bob Crow, ysgrifennydd cyffredinol undeb yr RMT, a Frances O’Grady, dirprwy ysgrifennydd cyffredinol undeb Unite, maen nhw’n annog y Llywodraeth i anwybyddu’r “gwrthwynebwyr ideolegol, cyfoethog” i’r HS2.

Mae’r mater wedi bod yn un dadleuol iawn i Ysgrifennydd Cymru, Cheryl Gillan, sydd wedi dweud y byddai hi’n ysytried gadael ei swydd yn Ysgrifennydd Cymru petai’r rheilffordd newydd yn niweidio rhannau o’i hetholaeth hi yn Lloegr.

Roedd disgwyl i’r Ysgrifennydd Trafnidiaeth, Justine Greening, wneud ei chyhoeddiad ynglŷn â’r cynlluniau cyn y Nadolig.

Ond mae’n debyg fod y penderfyniad wedi cael ei ohirio tan y flwyddyn newydd gan ei bod nawr yn ystyried a fyddai creu twnnel gwerth £500 miliwn i osgoi’r effaith gweledol ar Fryniau Chiltern, yn etholaeth Cheryl Gillan, yn opsiwn ymarferol.