Llun o wefan y Comisiwn Etholiadol
Mae bron ddwywaith cymaint o bobl ifanc 18 oed yn defnyddio’r wefan gymdeithasol  Facebook ag sydd wedi cofrestru i bleidleisio, yn ôl ymchwil gan y Comisiwn Etholiadol.

Mae dadansoddiad o gofrestrau etholiadol cannoedd o ardaloedd ledled Prydain yn dangos gostyngiad yn y cyfanswm o bobl ifanc arnyn nhw.

Er bod cyfanswm nifer yr oedolion sydd wedi cofrestru i bleidleisio wedi codi 0.8% i  47.5 miliwn, dim ond 520,000 o’r rhain a ddaeth yn 18 oed yn 2011. Roedd hyn 3% yn llai na’r grŵp yma yn 2010.

Ar y llaw arall, amcangyfrifir bod 1.05 miliwn o bobl ifanc 18 oed wedi cofrestru ar Facebook.

‘Pryder mawr’

“Mae’r gyfradd isel o bobl ifanc sy’n cofrestru i bleidleisio’n destun pryder mawr,” meddai llefarydd ar ran y Comisiwn Etholiadol.

“Mae’n hymchwil ni’n dangos mai dim ond 56% o bobl ifanc 19-24 oed, a 55% o bobl ifanc 17 ac 18 oed sydd ar y gofrestr etholiadol.”

Fe wnaeth y Comisiwn Etholiadol ddefnyddio Facebook y llynedd er mwyn annog pobl ifanc yn eu harddegau i gymryd rhan yn y broses ddemocrataidd, gan lwyddo i ddenu 15,000 i gofrestru.

“Bob blwyddyn, mae’r Comisiwn Etholiadol yn cynnal ymgyrchoedd i godi ymwybyddiaeth ymysg y cyhoedd i annog pobl i gofrestru,” meddai’r llefarydd.

“Mae pobl ifanc yn grŵp pwysig i’w dargedu, a dyna pam fod cyfryngau cymdeithasol wedi dod yn llwyfan cynyddol bwysig ar gyfer yr ymgyrchoedd hyn.”