Mae graddfa chwyddiant y Mynegai Prisiau Defnyddwyr (CPI) wedi gostwng rhywfaint i 4.8% ym mis Tachwedd, o 5% ym mis Hydref, yn ôl ffigyrau swyddogol heddiw.

Ond mae’r ffigwr yn dal i fod mwy na dwywaith y targed o 2% sydd wedi ei osod gan Fanc Lloegr.

Mae graddfa’r Mynegai Prisiau Adwerthu (RPI) wedi gostwng i 5.2% ym mis Tachwedd, o 5.4% ym mis Hydref.

Mae’n debyg bod cystadleuaeth ymhlith yr archfarchnadoedd i gadw prisiau i lawr, a gostyngiad ym mhris petrol fis diwethaf wedi helpu i ostwng y raddfa chwyddiant.

Mae Bacn Lloegr yn disgwyl i raddfa chwyddiant ostwng i 2% dros y ddwy flynedd nesaf.