Emma Jones
Fe fydd merch 23 oed sydd wedi’i chyhuddo o lofruddio dynes ym Mhenygroes yn ymddangos gerbron Llys y Goron Caernarfon fore heddiw.

Bu farw Emma Louise Jones, 31 oed, ar ôl cael ei thrywanu mewn digwyddiad ar stad o dai Trem yr Wyddfa ym Mhenygroes, Gwynedd yn ystod oriau mân fore ddydd Sadwrn.

Roedd Alwen Eluned Jones, 23 oed o bentref Llanllyfni wedi ymddangos gerbron Llys Ynadon Caernarfon ddoe ar gyhuddiad o’i llofruddio.

Heddiw, bydd yn ymddangos gerbron Llys y Goron Caernarfon ar gyfer cais am fechnïaeth.

Cafodd Heddlu’r Gogledd eu galw i ddigwyddiad yn Nhrem yr Wyddfa ym Mhenygroes yn ystod oriau mân fore dydd Sadwrn.

Cafodd Emma Louise Jones, oedd yn fam i fachgen ifanc, o Benygroes ei chludo i’r ysbyty ond bu farw’n ddiweddarach.

Mae tudalen faceboook Cysga Yn Dawel Emma Jones (Emma Bach) wedi denu cefnogaeth gan dros 2,000 o bobl ac mae degau o deyrngedau wedi’u postio iddi ar y wefan.