Streicwyr wythnos ddiwethaf

Mae disgwyl i’r Llywodraeth gyhoeddi cynnig newydd heddiw ynglŷn â phensiynau’r Gwasanaeth Iechyd Genedlaethol (GIG) a allai leddfu pryderon gweithwyr y sector cyhoeddus fu ar streic wythnos ddiwethaf.

Yn ôl papur The Times, fe fyddai’r cynigion yn golygu na fyddai 630,000 o staff y GIG sydd ar gyflogau is (llai na £26,500) yn gorfod cyfrannu mwy am eu pensiwn y flwyddyn nesaf.

Ond fe fydd 700,000 o staff sydd ar gyflogau uwch, gan gynnwys meddygon a metronau, yn gorfod talu cannoedd o bunnoedd yn ychwanegol.

Mae’r Adran Iechyd wedi gwrthod gwneud sylw am yr adroddiadau ond mae disgwyl cyhoeddiad yn ddiweddarach heddiw.

Daw’r adroddiadau wythnos ar ôl i filoedd o weithwyr y sector cyhoeddus fynd ar streic oherwydd newidiadau dadleuol i’w pensiynau.