Yr Arglwydd Hutton
Ni fydd diwygiadau dadleuol Llywodraeth San Steffan i bensiynau’r sector gyhoeddus yn ddigon er mwyn rheoli costau, yn ôl yr Arglwydd Hutton.

Dywedodd cyn-Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau llywodraeth Tony Blair fod angen mynd ymhellach yn sgil pryderon na fydd economi’r wlad yn tyfu’n ddigon cyflym.

Roedd yn gyfrifol am gynnal adolygiad o’r system bensiynau ar gais Llywodraeth San Steffan, ond dywedodd fod canlyniadau’r adolygiad hwnnw yn “optimistaidd”.

Ychwanegodd fod cynlluniau’r Llywodraeth i gynyddu’r oed ymddeol a gofyn i weithwyr yn y sector gyhoeddus gyfrannu rhagor at eu pensiynau yn “gwneud synnwyr”.

Ddydd Mercher diwethaf fe aeth miloedd o weithwyr yn y sector gyhoeddus – gan gynnwys athrawon a nyrsys – ar streic er mwyn gwrthwynebu’r newidiadau.

Ond mewn cyfweliad â rhaglen The World This Weekend ar Radio 4 mynnodd yr Arglwydd Hutton na fyddai’r diwygiadau yn ddigon yn dilyn rhybudd economaidd difrifol y Swyddfa Ddarbodus.

“Mae’r adroddiad yn dangos fod y rhagdybiaethau oedd yn sail i fy asesiadau ynglŷn â chynaladwyedd pensiynau’r sector gyhoeddus yn rhy optimistaidd,” meddai.

“Erbyn 2016 fe fydd economi’r wlad tua 3.5% yn llai nag oedden ni wedi ei feddwl. Mae hynny’n mynd i gael effaith negyddol ar gynaladwyedd pensiynau yn y sector gyhoeddus.”