Mae Asiantaeth Ffiniau’r DU wedi gofyn i weithwyr sifil gymryd yr awennau yn ystod streic yn y sector gyhoeddus yr wythnos nesaf.

Bydd y gweithwyr sifil yn cadw llygad ar deithwyr mewn meysydd awyr a phorthladdoedd wrth i swyddogion mewnfudo streicio dros newidiadau i’w pensiynau.

Mae swyddogion mewnfudo sy’n gweithio mewn gwledydd gan gynnwys India, De Affrica a Rwsia hefyd wedi derbyn cais i ddychwelyd i Ynysoedd Prydain ar ddiwrnod y streic.

Fe fydd 2,000,000 o weithwyr – gan gynnwys tua 18,000 o swyddogion mewnfudo – yn cadw draw o’r gwaith os yw’r streic ddydd Mercher yn mynd rhagddo.

Dyma fydd y streic fwyaf o’i fath ers ‘Gaeaf Anfodlonrwydd’ 1978-9, ac mae yna bryderon y bydd ciwiau hir yn wynebu unrhyw un sydd eisiau gadael neu gyrraedd y wlad.

“Amddiffyn ein ffiniau yw ein blaenoriaeth ni ac fe fyddwn ni’n ystyried pob opsiwn er mwyn sicrhau nad yw’r streic yn amharu ar ein gwasanaethau,” meddai llefarydd ar ran Asiantaeth Ffiniau’r DU.

Ychwanegodd y bydd y gweithwyr yn derbyn yr “hyfforddiant sydd ei angen” er mwyn cwblhau’r gwaith.

Dywedodd llefarydd ar ran y Prif Weinidog, David Cameron, eu bod nhw’n “trafod cynlluniau wrth gefn ond ddim yn bwriadu eu trafod”.

“Mae’r cyhoedd yn disgwyl i’r Llywodraeth wneud popeth o fewn eu gallu i leihau effaith y streiciau,” meddai.

“Os yw’r streic yn mynd rhagddo’r wythnos nesaf, fe fydd yn cael effaith ar bobol a’u teuluoedd ar draws y wlad. Os yw ysgolion yn cau fe fydd rhaid i lawer iawn o bobol aros adref â’u plant.

“Mae streiciau yn costio arian i bobol ac fe fyddwn ni’n gwneud popeth o fewn ein gallu er mwyn atal hynny.”