Richard Scanlon
Fe fydd cyrff pedwar o filwyr o Brydain, gan gynnwys un o Gymru, yn cael eu hedfan yn ôl o Afghanistan heddiw.

Cafodd yr Is-gorpral, Richard Scanlon, 31, o Rymni ei ladd ar ôl i’w gerbyd daro bom yn rhanbarth Helmand y wlad ar 17 Tachwedd.

Fe fu milwr arall, yr Is-gapten David Boyce, 25, o Swydd Hertford farw yn yr un ffrwydrad.

Cafodd yr Is-gorpral, Peter Eustace, 25, o Lerpwl ei ladd y diwrnod cynt ac fe fu farw’r milwr Thomas Lake, 29, o Watford ar 20 Tachwedd.

Fe fydd eu cyrff yn cael eu hedfan i RAF Brize Norton yn Swydd Rhydychen.

Caiff seremoni breifat ei gynnal er mwyn y teuluoedd mewn canolfan arbennig yno cyn i’r cynhebrwng deithio i gyfeiriad Ysbyty John Radcliffe yn Rhydychen.

Bydd yr hersiau yn cael eu hebrwng heibio i’r ardd goffa yn Carterton lle y mae disgwyl i’r cyhoedd ymgynnull er mwyn talu teyrnged i’r dynion.

Roedd Richard Scanlon wedi ymuno â’r fyddin yn 1998 ac wedi mynd i Afghanistan ar 18 Hydref.

Roedd hefyd wedi bod ym Mosnia yn 2011 ac Irac yn 2003 a 2005.

Gadawodd y fyddin yn 2006 cyn ail ymuno yn 2009 a chael ei ddyrchafu yn Is-gorporal ym mis Hydref 2010.

Mae ei fam Cherry, ei lys-dad Robert, ei dad Raymond a’i chwiorydd Lisa ac Emma wedi talu teyrnged iddo.

“Roedd Richard yn ddyn ifanc llawn hwyl oedd yn mwynhau bywyd i’r eithaf,” medden nhw.

“Roedd yn dipyn o gymeriad ac fe fydd y teulu a phawb oedd yn ei nabod yn gweld ei eisiau. Ni fydd yna unrhyw un arall fel Richard ni.”

Mae yna 389 o filwyr Prydeinig wedi marw yn Afghanistan ers dechrau’r brwydro yno yn 2001.