Milly Dowler
Fe fydd rhieni Milly Dowler yn rhoi tystiolaeth yn yr ymchwiliad i safonau’r wasg heddiw.

Mae disgwyl iddyn nhw ddisgrifio’r boen a’r loes roeddan nhw’n wedi ei ddioddef ar ôl darganfod bod ditectif preifat wedi codi eu gobeithion bod eu merch yn dal yn fyw drwy ddileu negeseuon ar ei ffôn symudol.

Sally a Bob Dowler fydd y cyntaf i roi tystiolaeth yn Ymchwiliad Leveson. Mae’r ymchwiliad yn cael ei gynnal ar ôl iddi gael ei datgelu bod y News of the World wedi cyflogi’r ditectif preifat Glenn Mulcaire i hacio ffôn y ferch ysgol ar ôl iddi ddiflannu yn 2002.

Fe fydd yr ymchwiliad hefyd yn clywed tystiolaeth gan 16 o bobl eraill sy’n honni bod y wasg wedi amharu ar eu preifatrwydd – yn eu plith mae Hugh Grant, Sienna Miller, JK Rowling a thad Madeleine McCann, Gerry.