Mae’r heddlu wedi datgelu heddiw eu bod nhw wedi derbyn 200 o alwadau gan aelodau o’r cyhoedd yn cynnig gwybodaeth am y ddamwain ar yr M5 ddydd Gwener diwethaf, a laddodd saith o bobol.

Mae Heddlu Avon a Gwlad yr Haf wedi dweud bod yr ymateb cyhoeddus wedi bod yn “anferth” wrth i’r ymchwiliad ddechrau i farwolaethau’r rheiny a gafodd eu lladd yng ngwlad yr haf, ac wrth i gyrff y rhai a fu farw gael eu rhyddhau i gael eu claddu.

Bu farw’r dadcu a’r mamgu o Gasnewydd, Anthony a Pamela Anderson, yn y ddamwain nos Wener, ynghyd â’r gyrrwr lori Terry Brice, o dde Swydd Gaerloyw, Kye Thomas, o Gernyw, y tad a’r ferch Michael a Maggie Barton o Swydd Berkshire, a Malcolm Beacham o Bridgewater.

Wrth siarad tu allan i’r gwrandawiad yn Taunton, Gwlad yr Haf, dywedodd y Ditectif Uwch-arolygydd Mike Courtiour, sy’n arwain ymchwiliad yr heddlu, fod mwy na 30 o staff a swyddogion yr heddlu nawr yn ymchwilio i’r ddamwain.

“Ers i’r ddamwain drasig ddigwydd, rydyn ni wedi bod yn gweithio’n ddi-stop i geisio deall beth ddigwyddodd, ac mae’r ymchwiliad hynny yn dal i fynd yn ei flaen.

“Rydyn ni wedi derbyn nifer fawr o alwadau a negeseuon gan aelodau o’r cyhoedd ac rydw i’n ddiolchgar iawn am hyn. Mae’r galwadau yma wedi arwain at bron i 200 o faterion i ni eu dilyn.

“Rydyn ni’n gweithio’n galed er mwyn siarad â phawb mor gynted â phosib, ond mae angen i ni weithio mewn modd sensitif, gan fod rhai o’r bobol a anafwyd yn dal i fod wedi eu cynhyrfu ac yn ofidus ar ôl yr hyn a welon nhw. Felly fe fyddwch chi’n deall fod pethau yn debygol o gymryd bach o amser.

“Fy ngwaith i yw parhau i gynnal ymchwiliad proffesiynol, trylwyr a manwl, yn y gobaith y gallwn ni roi atebion i’r teuluoedd galarus sydd wedi colli perthnasau a ffrindiau.”