Mae nifer y bobol sy’n gadael eu swyddi ym Mhrydain wedi gostwng rhwng mis Ebrill a Mehefin 2011.

Yn ôl ystadegau diweddaraf swyddfa ystadegau yr ONS, gadawodd 647,000 o bobol eu swyddi rhwng mis Ebrill a Mehefin eleni.

Mae’r ffigwr hwn 42% yn is na’r uchafbwynt yn 1998, pan adawodd 1.17 miliwn o bobol eu swyddi yn ystod un chwarter.

Yn ôl adroddiad yr ONS, mae’r gostyngiad yma yn awgrymu bod y farchnad lafur yn llai deinamig nawr nag yn y gorffennol, a hynny oherwydd yr economi.

“Mae arafu yn yr economi, fel a brofwyd yn ystod y blynyddoedd diwethaf yn y Deyrnas Unedig, yn mynd i effeithio ar y nifer o bobol sy’n gadael eu swyddi,” medd yr adroddiad.

“Ers dechrau’r dirwasgiad yn 2008-09, mae’r canran o’r rheiny sy’n dewis gadael eu swyddi a’r rheiny sy’n cael eu gorfodi i adael eu swyddi wedi culhau yn sylweddol.

“Yn ail chwarter 2009 – chwarter olaf y dirwasgiad – roedd nifer y bobol oedd yn gadael eu prif swyddi yn wirfoddol ar yr un lefel â’r nifer oedd yn gadael eu swyddi yn anwirfoddol: y ddau ar 382,000, neu 1.4% o’r gweithlu cyfan.”

Yn ôl y ffigyrau ddiweddaraf, mae pobol wedi bod yn fwy tebygol o ddewis gadael eu swyddi’n wirfoddol trwy, er enghraifft, ymddiswyddo, na chael eu gorfodi i adael oherwydd y dirwasgiad.

Yn ôl yr ystadegau, gadawodd 2.4% o’r holl weithlu eu prif swydd yn ail chwarter 2011, o’i gymharu â 4.5% yn 1998.

O’r 674,000 o bobol a adawodd eu prif swyddi yn 2011, gadawodd 57% – neu 382,000 – yn wirfoddol, a chafodd 43% – neu 292,000 o bobol – eu gorfodi i adael.