Mae Stryd Downing wedi gwadu adroddiadau y bydd y “clo triphlyg” ar bensiynau’n cael ei ddiddymu yn sgil argyfwng ariannol y coronafeirws.

Mae’r clo triphlyg, sydd wedi bod mewn grym ers 2010, yn addewid i ddiogelu incwm pensiynwyr a helpu i warchod eu grym gwario.

Bob blwyddyn, mae pensiwn y wladwriaeth yn codi yn unol â naill ai chwyddiant y flwyddyn tan fis Medi, neu ‘llawr’ o 2.5%, neu gyflogau, pa bynnag un sydd uchaf.

Yn ôl y Financial Times, mae’r Canghellor Rishi Sunak yn bwriadu torri’r addewid yn sgil gofidion nad yw’r polisi’n fforddiadwy.

Ond dywed ffynhonnell yn Rhif 10 wedi datgan nad oes cynlluniau o’r fath ar y gweill.

“Allwn ni ddim cuddio o’r ffaith bod rhain yn amgylchiadau economaidd unigryw ag anodd,” meddai.

“Caiff penderfyniadau ar dreth a pholisi pensiwn eu gosod mewn gan y Canghellor yn y Gyllideb, ond does dim cynlluniau i ddiddymu’r clo triphlyg a byddwn wastad yn sefyll gyda phensiynwyr.”