Mae 35% o bobol ifanc yn credu y byddan nhw naill ai yn colli eu swyddi neu’n cael gostyngiad mewn tâl neu oriau gwaith yn sgil effaith economaidd y coronafeirws.
Yn ôl arolwg gan comparethemarket.com, mae 17% o bobol rhwng 18-24 oed yn credu eu bod am golli eu swyddi yn y misoedd nesaf.
Tra bod 18% yn y grŵp oedran hwn yn disgwyl y bydd yn rhaid iddyn nhw gymryd gostyngiad mewn tâl neu oriau gwaith.
Ar draws y grwpiau oedran, mae 12% o bobol yn disgwyl colli eu swyddi tra bod 14% yn credu y bydd yn rhaid iddyn nhw gymryd gostyngiad mewn tâl neu oriau gwaith.
Cael trafferth gyda thalu biliau
Mae 21% o bobol 18-24 oed wedi dweud eu bod nhw wedi cael trafferth talu biliau yn yr wythnos flaenorol, gyda 24% yn credu y byddan nhw’n cael trafferth yn ystod yr wythnosau nesaf.
Ar draws y boblogaeth yn gyffredinol, mae hyder ynghylch talu biliau wedi gwella.
Dywed 16% o bobol eu bod wedi ei chael hi’n “anodd” rheoli cyllid y cartref dros y saith diwrnod diwethaf, sy’n is na 18% yr wythnos gynt.
Mae 17% o bobol yn dweud eu bod yn poeni am gael trafferth talu biliau dros yr wythnosau nesaf, i lawr o 20% yr wythnos gynt, yn ôl yr arolwg o dros 2,000 o bobol.
Teuluoedd â phlant gartref yn ei chae hi’n anoddach
Mae teuluoedd â phlant yn byw gartref yn delio â mwy o bryder ariannol, yn ôl yr arolwg.
Dywed bron i chwarter (24%) o’r grŵp hwn eu bod yn disgwyl cael trafferth ymdopi â straen ariannol dros yr wythnosau nesaf, er bod hyn yn welliant bychan o 26% wythnos ynghynt.
“Gyda chymaint o bobol yn gorfod benthyg mwy neu’n cymryd tâl gwyliau, mae’n bosib ein bod yn anelu tuag at sefyllfa lle bydd pobl, yn benodol pobol ifanc sydd â llai o arbedion, yn gorfod talu arian yn ôl gyda llai o incwm wrth gefn,” meddai cyfarwyddwr cynnyrch comparethemarket.com Anna McEntee.
“Mi fydd hi’n hanfodol bod darparwyr gwasanaethau ariannol mor hyblyg â phosib er mwyn helpu eu cwsmeriaid drwy beth sydd am fod yn gyfnod hynod anodd.”