Mae Centrica, sy’n berchen Nwy Prydain, wedi dweud y bydd yn cael gwared a 5,000 o swyddi.

Yn ôl y cwmni mae hyn o ganlyniad i effaith pandemig y coronafeirws ar fusnes oedd eisoes yn gwegian. Mae Centrica wedi colli hanner ei elw yn y degawd diwethaf wrth i gwmnïau ynni llai ddenu cwsmeriaid gan Nwy Prydain.

Dywed Centrica y bydd yn cael gwared a nifer o reolwyr y busnes ac yn lleihau biwrocratiaeth.

Fe fydd tua 20 o reolwyr yn gadael eu swyddi erbyn diwedd mis Awst. Mae disgwyl i’r rhan fwyaf o’r ail-strwythuro ddigwydd yn ail hanner y flwyddyn, meddai Centrica.

Dywedodd y prif weithredwr Chris O’Shea ei fod wedi ceisio llywio’r busnes drwy’r argyfwng Covid-19 “ac ry’n ni wedi dysgu bod yn rhaid i ni ymateb i’r heriau anodd iawn yma a rhoi ein cwsmeriaid wrth galon ein penderfyniadau.”

Ychwanegodd bod yn rhaid gwneud “penderfyniadau anodd” er mwyn rhwystro’r busnes rhag “dirywio ymhellach”.