Mae Plaid Cymru wedi galw am gael canlyniadau profion coronafeirws yn gynt.

Yn ôl llefarydd iechyd y blaid, Rhun ap Iorwerth, mae cyngor gwyddonol yn dangos mai’r rhaglenni profi mwyaf llwyddiannus ledled y byd yw’r rhai sy’n gallu rhoi canlyniadau profion coronafeirws o fewn 24 awr.

Mae Rhun ap Iorwerth wedi gofyn am “sicrwydd pellach” fod elfennau’r rhaglen profi ac olrhain yn cael eu cyflymu ac mae wedi gofyn i Lywodraeth Cymru sicrhau bod effeithiolrwydd y rhaglen profi ac olrhain yr un fath “ym mhob rhan o Gymru”.

Angen cyflymu

Mewn papur a gyhoeddwyd ar wefan Llywodraeth Cymru, mae’r Grŵp Cynghori Technegol yn cadarnhau bod y cynlluniau Profi, Olrhain ac Amddiffyn mwyaf llwyddiannus yn gofyn am ganlyniadau prawf o fewn 24 awr.

Er bod Prif Weinidog Cymru wedi datgan ei “uchelgais” i ganlyniadau profion fod yn ôl o fewn 24 awr, dim ond traean o’r profion sy’n cael eu dychwelyd o fewn yr amseroedd hyn ar hyn o bryd.

Mae Rhun ap Iorwerth wedi galw am sicrwydd pellach bod gwaith yn cael ei wneud i gyflymu’r holl broses brofi.

Mae’n dweud y bydd dychwelyd canlyniadau’r profion yn gyflymach yn galluogi Cymru i fynd i’r afael ag achosion lleol “drwy’r rhan olrhain o’r rhaglen”.

Mae hefyd wedi galw am ddadansoddiad rhanbarthol o ganlyniadau er mwyn sicrhau nad oes unrhyw oedi mewn rhai ardaloedd, yn dilyn pryderon gan etholwyr bod y broses brofi yn arafach yn y gogledd.

Manteision clir

“Rydyn ni wedi clywed gan gynghorwyr Llywodraeth Cymru mai rhaglenni profi, olrhain a diogelu llwyddiannus yw’r rhai sy’n dychwelyd canlyniadau profion coronafeirws o fewn 24 awr,” meddai’r Aelod o’r Senedd Rhun ap Iorwerth.

“Mae’r manteision yn glir – os yw pobl wedi profi’n bositif, gellir dechrau’r elfen olrhain o’r rhaglen yn gyflymach, ac mae gennym well siawns o fod yn atal yr ymlediad.

“Yn yr un modd, i’r rhai nad ydynt wedi’u heintio, gallent ddychwelyd i’w bywyd bob dydd yn gynt, a gallai hyn gynnwys gweithwyr allweddol.

“Rwy’n gofyn am sicrwydd pellach bod Llywodraeth Cymru yn gwneud cynnydd o ran cyflymu hyn, gan y bydd dychwelyd canlyniadau profion yn gyflymach yn galluogi Cymru i ddal achosion lleol yn well.

“Rwyf hefyd yn galw am ddadansoddiad rhanbarthol o faint o amser y mae’n ei gymryd i gael canlyniadau profion.

“Mae pobl yn fy etholaeth wedi mynegi pryderon am arafwch y broses brofi yn y gogledd.

“Os bydd un ardal o Gymru yn gweld oedi wrth ddychwelyd canlyniadau’r profion, byddant yn arafach yn cysylltu â phobl a allai fod wedi’u heintio, a gall hyn gael effaith ar yr ardal leol gyfan.

“Mae’n hanfodol bod y profi ac olrhain yn gweithio’n effeithiol ac yn gyflym, a bod hyn yn wir ym mhob rhan o Gymru.”