Mae glaw trwm a gwyntoedd cryf yn yr Alban wedi arwain at rybuddion am lifogydd a gwasanaethau fferi yn cael eu canslo.
Gyda nifer o wasanaethau fferi eisoes wedi peidio oherwydd y pandemig coronafeirws, mae o leiaf dri gwasanaeth arall wedi peidio oherwydd y tywydd y penwythnos yma, gydag adroddiadau o wyntoedd o hyd at 45 milltir yr awr.
Mae Asiantaeth Amgylchedd yr Alban wedi cyhoeddi rhybuddion melyn am lifogydd i barhau tan fore Sul mewn pum ardal ar hyd gorllewin a gogledd y wlad: Argyll a Bute; Easter Ross a Great Glen; Findhorn, Nairn, Moray a Speyside; Skye a Lochaber; a Wester Ross.