Mae amheuon wedi’u codi am ddilysrwydd nifer o gyfrifon Twitter sydd wedi bod yn trydar union yr un neges yn canu clodydd Llywodraeth Prydain.

Mae wyth o gyfrifon wedi trydar yr un geiriau dros y chwe diwrnod diwethaf, a phob un o’r cyfrifon hynny’n cario’r un neges.

“Mae newyddiaduraeth yn methu’r hwyliau yn ein gwlad wych ni – y Deyrnas Unedig,” meddai’r neges.

“Does dim angen a dydyn ni ddim eisiau bai.

“Dydyn ni ddim eisiau beirniadaeth barhaus o’n Llywodraeth sy’n gwneud eu gorau glas mewn argyfwng byd-eang anodd iawn a digynsail.”

Mae’r neges wedi cael ei phostio gan Gary Head (@Headie_38881, 61 o ddilynwyr), Yung Leung (@YungshianL, un dilynwr), Linda Triphook (@LindaPinder, saith dilynwr), Antkent (@ukbarbershops, 57 o ddilynwyr), Given Up (@JoeDavi11944584, pump dilynwr), Simon Peck (@SIMONPECK5, 18 o ddilynwyr), y cyfrif @Britbong_ sydd â naw o ddilynwyr ond lluniau o Jac yr Undeb fel enw’r cyfrif a Martin Brint (@MartinBrint, 55 o ddilynwyr).

Ymgynghorydd ariannol o Gaerwysg yw Martin Brint, tra bod cyfrif Gary Head yn dweud ei fod yn dod o Bournemouth.

Mae cyfrif Yung Leung o Lerpwl bellach wedi cael ei wahardd am y tro, a pherchennog cwmni trin gwallt yng nghanolbarth Lloegr yw Ant Kent.

Cefndir

Mae’r newyddiadurwr Ian Fraser yn tynnu sylw at y negeseuon ar ei dudalen Twitter ei hun.

Mae’n dweud mai tarddiad y geiriau yn y neges yw erthygl gan y blogiwr Undebol, Effie Deans o’r Alban ar Ebrill 20.

Ac mae’n dweud bod y dyfyniad yn rhan o ddatganiad i’r wasg gan y defnyddiwr Facebook, JD Robinson ar Ebrill 25.

Mae’r postiad hwnnw’n cyfeirio at “wasg negyddol y Deyrnas Unedig”, sy’n cynnwys Laura Kuenssberg, Nick Robinson, Robert Peston, Beth Rigby, Piers Morgan a “Newyddion y BBC yn gyffredinol”.

Mae’r neges hefyd yn galw am “gyfraniad adeiladol” gan y wasg yn wyneb y coronafeirws, yn ogystal â “gobaith, optimistiaeth a ffydd, gyda llai o negatifrwydd a mwy o gefnogaeth bositif gan y newyddiadurwyr hyn”.

“Mae’n bryd i chi gyd newid eich rhethreg negyddol a gwleidyddol er lles y genedl hon a dechrau cefnogi ein Llywodraeth.

“Gadewch i ni gael y neges hon ar wasgar ac mae’n bosib y byddan nhw’n talu sylw.”

Ymhlith y rhai oedd wedi postio ar Twitter yn cefnogi’r neges mae’r dyn busnes, Syr Alan Sugar.