Yn ei araith gyntaf yn Downing Street ers iddo gael triniaeth yn yr ysbyty ar ôl cael ei heintio gyda’r coronafeirws, mae Boris Johnson wedi rhybuddio bod y Deyrnas Unedig yn wynebu’r “risg fwyaf” yn y frwydr yn erbyn y feirws.

Mae’r Prif Weinidog wedi cydnabod y rhwystredigaeth oherwydd y cyfyngiadau ond mae’n mynnu nad yw eisiau peri’r risg o ail don o’r feirws drwy lacio’r cyfyngiadau yn rhy gyflym.

Wrth iddo ail-gydio yn yr awenau i arwain ymateb y Llywodraeth i’r pandemig, dywedodd Boris Johnson bod ’na arwyddion bod y Deyrnas Unedig yn dechrau tynnu tuag at ddiwedd rhan gynta’r feirws.

Mae wedi annog pobl i “ddal ati” a chadw at reolau’r cyfyngiadau.

Ychwanegodd ei fod yn rhannu pryderon busnesau am effaith y cyfyngiadau ond dywedodd nad oedd eisiau aberthu’r “ymdrech gan bobl Prydain” a pheri risg o ail don o’r feirws.

Roedd y Prif Weinidog wedi dychwelyd i Downing Street nos Sul (Ebrill 26) ar ôl bod i ffwrdd o’i waith am dair wythnos. Roedd wedi cael diagnosis o’r feirws fis yn ôl a chafodd ei gludo i ysbyty yn Llundain ar Ebrill 5. Roedd wedi treulio wythnos yno, gan gynnwys tair noson mewn uned gofal dwys.