Mae’r gyn-gyfreithwraig Eirian Evans, oedd yn enedigol o Lanelwy, Sir y Fflint, wedi marw mewn cartref gofal yng Nghaerdydd yn 104 mlwydd oed.

Hi oedd y fenyw gyntaf i gael ei hethol yn llywydd Cymdeithas  Cyfraith Gogledd Cymru a Chaer yn 1973. Pedair blynedd yn ddiweddarach daeth yn aelod o Gyngor  Cymdeithas y Cyfreithwyr  ac unwaith eto’r fenwy gyntaf i gyflawni’r swydd hon.

Theatr Garthewin

Bu Eirian Evans yn ddisgybl yn yr ysgol ramadeg leol cyn astudio’r gyfraith yng Ngholeg y Brifysgol,  Aberystwyth, yna aeth ymlaen i gymhwyso fel cyfreithiwr a gweithiodd  gyda J R Williams a’i Gwmni  yn Abergele ar hyd ei hoes.

Roedd Eirian Evans  yn ymwneud ag amrywiaeth o sefydliadau a diddordebau. Ym 1949 fe’i penodwyd yn ysgrifennydd Theatr Garthewin, cwmni theatr enwog  y 1940au a 50au.

Yn ystod y cyfnod hwn perfformiodd  yn aml mewn gwahanol gynyrchiadau, gan gynnwys rhai o ddramâu Saunders Lewis, ac fe’i disgrifiwyd hi unwaith yn Y Faner fel “un o oreuon llwyfan ein drama.”

Teithio

Roedd Eirian Evans yn hoff iawn o deithio, ac aeth ar nifer o wyliau i wahanol rannau o’r byd, o Tsieina i Dde America.

Yn 1974 aeth gyda grŵp o 18 i ymweld â Phatagonia.

Ar ei hymddeoliad o J.R Williams a’i Gwmni, parhaodd i fyw yn Abergele hyd nes ei bod yn 99 mlwydd oed. O hynny ymlaen bu’n byw mewn cartref gofal yng Nghaerdydd, a bu farw yno yn 104 mlwydd oed.