Ian Duncan Smith
Gall pobl sydd ddim yn talu eu dirwyon ar ôl troseddu golli hyd at £25 yr wythos o’u budd-daliadau o 2013 ymlaen yn ôl y llywodraeth.

Ar hyn o bryd mae troseddwyr sy’n derbyn budd-dal ac sydd ddim yn talu eu dirwyon yn gallu colli £5 yr wythnos o’u taliadau. Ar ôl i’r drefn budd-daliadau newid yn 2013 gall hyn godi i £25 yr wythnos sef 37% o’r lwfans presenol yn ôl yr argymhelliad diweddaraf..

Dywedodd yr Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau, Ian Duncan Smith, bod y terfysg diweddar yn rhai o ddinasoedd Lloegr yn profi nad yw llawer yn ystyried canlyniadau ac effaith eu hymddygiad. Buasai colli rhan sylweddol o’u budd-daliadau yn gwneud i’r rhai sy’n achosi trafferthion feddwl ddwywaith am yr hyn y mae nhw’n ei wneud.

“Dwi ddim eisiau gadael pobl heb arian i gynnal ei hunain ond ar y llaw arall rhaid i unigolion sylweddoli na allan nhw droseddu ac effeithio ar fywoliaeth a chymunedau pobl eraill sy’n gweithio yn galed heb unrhyw ganlyniadau” meddai.

Cyhoeddwyd ffigyrau swyddogol yn ddiweddar sy’n dangos bod 40% o’r 1,350 ymddangosodd gerbron llysoedd yn Lloegr wedi’r terfysg yn hawlio rhyw fath o fudd-dal.

Dywedodd y Prif Weinidog, David Cameron bod y drefn fel ag y mae hi ar hyn o bryd yn llawer rhy feddal.

“Os ydych chi’n troseddu ac yn derbyn budd-daliadau, yna allwch chi ddim o hyn allan ddisgwyl gallu talu yr isafswm. Rhaid i bobl ddeall os ydyn nhw’n troseddu, yna fe fydd yna ganlyniadau” meddai mewn datganiad yn Awstralia ble mae wedi bod yn mynychu cyfarfod arweinyddion y Gymanwlad.