Mae’r elusen Mencap wedi datgan eu pryderon ynghylch effaith canllawiau newydd ar bobl sydd ag anableddau dysgu.

Daw hyn ar ôl i Sefydliad Cenedlaethol Ragoriaeth Iechyd a Gofal (NICE) gyhoeddi canllawiau newydd ar y gofal a roddir i gleifion yn ystod yr achos o Covid-19.

Mae’r canllawiau newydd ar ofal cyflwr difrifol yn datgan y dylai pob achos positif o Covid-19 gael ei asesu ar sail “bregusrwydd” pan mae gweithwyr iechyd yn gwneud penderfyniad i drosglwyddo claf i ofal dwys a’i peidio.

Wrth ymateb i hyn, dywedodd Edel Harris, Prif weithredwr yr elusen ar gyfer anableddau dysgu Mencap:

“Mae rhain yn ddyddiau dyrys ac mae ein Gwasanaeth Iechyd o dan bwysau aruthrol. Ond mae pobl ag anableddau dysgu a’u teuluoedd yn poeni’n arw fod y canllawiau newydd gan NICE i’r meddygol gofal dwys yn golygu na fydd cleifion ag anableddau dysgu yn derbyn yr un gofal mewn cyflwr difrifol ac o ganlyniad yn marw yn ddi-angen.

“Mae’r canllawiau yma yn awgrymu na fydd y rhai hynny sydd methu gwneud tasgau dyddiol fel coginio, trin arian a gofal personol yn annibynnol – yr holl bethau mae unigolyn ag anableddau dysgu angen cefnogaeth arno’n aml – yn derbyn triniaeth gofal dwys.”

“Dyna pam rydym ni’n galw ar NICE i gynnwys canllawiau penodol ar anableddau dysgu er mwyn ei gwneud yn gwbl glir na ddylai gweithwyr meddygol farnu claf ar eu gallu gwybyddol pan yn gwneud penderfyniadau rhwng byw a marw.”