Mae gan 55,000 o bobol yn y Deyrnas Unedig y coronafeirws a’r nod yw i lai na 20,000 o bobol farw ohono, meddai prif ymgynghorydd gwyddonol y Llywodraeth.
Dywed Syr Patrick Vallance bod nifer y marwolaethau disgwyliedig yn “ddychrynllyd” ac y bydd yna straen enfawr ar y gwasanaeth iechyd.
Aeth yn ei flaen i ddweud y bydd y mesurau “llym” a gafodd eu cyflwyno ddydd Llun (Mawrth 23) yn “cael effaith sylweddol ar anterth y feirws” gan arwain at ostyngiad mewn achosion a marwolaethau ar ôl dwy neu dair wythnos.
Rhybuddiodd nad yw hi’n glir beth fydd yn digwydd unwaith fydd pobol yn cael eu rhyddhau o ynysu eu hunain heb orfod ymgymryd â neilltuo cymdeithasol.
“Mae hynny yn un o’r pethau nad ydym yn ei wybod ac sy’n rhaid i ni feddwl yn galed amdano,” meddai Syr Patrick Vallance.
“Os allwn gael y niferoedd i lawr i 20,000 ac yn is, mae hwnnw yn ganlyniad da yn nhermau’r hyn oedden yn gobeithio cael gyda’r afiechyd, ond mae dal yn ddychrynllyd, mae dal yn nifer fawr o farwolaethau ac yn bwysau enfawr ar y gwasanaeth iechyd,” meddai pan ofynnwyd iddo a oedd o’n credu y byddai marwolaethau’n aros o dan 20,000.